13 Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
14 Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.
15 Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
16 Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.Yf dithau nes y byddi'n simsan.Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
17 Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn,a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo,o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tira'r ddinas a'i holl drigolion.
18 Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd?Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd.Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith,nid yw'n gwneud ond delwau mud.
19 Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”,ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”.Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian,ond nid oes dim anadl ynddo.