Haggai 1 BCN

Gorchymyn i Ailadeiladu'r Deml

1 Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai at Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac at Josua fab Josedec, yr archoffeiriad.

2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Y mae'r bobl hyn yn dweud na ddaeth yr amser i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.”

3 A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:

4 “Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tŷ hwn yn adfeilion?”

5 Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

6 Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog.”

7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

8 Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tŷ, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd,” medd yr ARGLWYDD.

9 “Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Am fod fy nhŷ yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch â thŷ i fynd iddo.

10 Dyna pam yr ataliodd y nefoedd y gwlith ac y cadwodd y ddaear ei ffrwyth,

11 ac y cyhoeddais innau sychder ar y ddaear, y mynyddoedd, yr ŷd, y gwin, yr olew, ar bopeth o gynnyrch y tir, ar ddyn ac anifail, ac ar holl lafur dwylo.”

Ymateb y Bobl

12 Gwrandawodd Sorobabel fab Salathiel a Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriau Haggai, y proffwyd a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd y bobl o flaen yr ARGLWYDD.

13 Yna llefarodd Haggai, cennad yr ARGLWYDD, neges yr ARGLWYDD i'r bobl: “Yr wyf fi gyda chwi,” medd yr ARGLWYDD.

14 A chynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac ysbryd Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a gweddill y bobl; a daethant a dechrau gweithio ar dŷ ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw hwy,

15 ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis.

Penodau

1 2