1 Yn awr, offeiriaid, i chwi y mae'r gorchymyn hwn.
2 “Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.
3 Wele fi'n torri ymaith eich braich ac yn taflu carthion i'ch wynebau, carthion eich uchelwyliau, ac yn eich troi ymaith oddi wrthyf.
4 Yna cewch wybod imi anfon y gorchymyn hwn atoch, er mwyn parhau fy nghyfamod â Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
5 “Fy nghyfamod ag ef oedd bywyd a heddwch; rhoddais hyn iddo er mwyn iddo ofni, ac ofnodd yntau fi a pharchu fy enw.
6 Gwir gyfarwyddyd oedd yn ei enau, ac ni chaed twyll ar ei wefusau; rhodiai gyda mi mewn heddwch ac uniondeb, a throdd lawer oddi wrth ddrygioni.