1 Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â'n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglŷn â gair y bywyd, dyna'r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi.
2 Amlygwyd y bywyd hwn; ac yr ydym wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol a oedd gyda'r Tad ac a amlygwyd i ni.
3 Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb â ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.
4 Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn.
5 Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch.
6 Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd;
7 ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod.