1 Ioan 3 BCN

1 Gwelwch pa fath gariad y mae'r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym. Y rheswm nad yw'r byd yn ein hadnabod ni yw nad oedd yn ei adnabod ef.

2 Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.

3 Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur.

4 Y mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith hefyd; anghyfraith yw pechod.

5 Yr ydych yn gwybod bod Crist wedi ymddangos er mwyn cymryd ymaith bechodau; ac ynddo ef nid oes pechod.

6 Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef.

7 Blant, peidiwch â gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Y mae'r sawl sy'n gwneud cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae ef yn gyfiawn.

8 O'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw.

9 Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw.

10 Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod.

Carwch Eich Gilydd

11 Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd.

12 Nid fel Cain, a oedd o'r Un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham y lladdodd ef? Oherwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.

13 Peidiwch â synnu, gyfeillion, os yw'r byd yn eich casáu chwi.

14 Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth.

15 Llofrudd yw pob un sy'n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16 Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau.

17 Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?

18 Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.

Hyder gerbron Duw

19 Dyma sut y cawn wybod ein bod o'r gwirionedd, a sicrhau ein calonnau yn ei ŵydd ef

20 pryd bynnag y bydd ein calon yn ein condemnio; oherwydd y mae Duw yn fwy na'n calon, ac y mae'n gwybod pob peth.

21 Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw,

22 ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd.

23 Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.

24 Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.

Penodau

1 2 3 4 5