1 Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn;
2 ac ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd.
3 Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion.
4 Y sawl sy'n dweud, “Rwyf yn ei adnabod”, a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo;
5 ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef:
6 dylai'r sawl sy'n dweud ei fod yn aros ynddo ef rodio ei hun yn union fel y rhodiodd ef.
7 Gyfeillion annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn, un sydd wedi bod gennych o'r dechrau; y gair a glywsoch yw'r hen orchymyn hwn.