1 Paul a Silfanus a Timotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Gras a thangnefedd i chwi.
2 Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddïau,
3 a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.
4 Gwyddom, gyfeillion annwyl gan Dduw, eich bod chwi wedi eich ethol,
5 oherwydd nid ar air yn unig y daeth atoch yr Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu, ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Glân, a chydag argyhoeddiad mawr. Fe wyddoch chwithau hefyd pa fath rai oeddem ni yn eich plith, ac er eich mwyn chwi.
6 Daethoch chwi yn efelychwyr ohonom ni ac o'r Arglwydd, gan ichwi dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, ynghyd â llawenydd yr Ysbryd Glân.
7 Felly daethoch yn esiampl i bawb o'r credinwyr ym Macedonia ac yn Achaia.