1 Thesaloniaid 5 BCN

1 Ynglŷn â'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch.

2 Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.

3 Pan fydd pobl yn dweud, “Dyma dangnefedd a diogelwch”, dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt.

4 Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr;

5 pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch.

6 Am hynny, rhaid inni beidio â chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr.

7 Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi.

8 Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.

9 Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10 yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn.

11 Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.

Anogaethau Terfynol a Chyfarchion

12 Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori,

13 a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain.

14 Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.

15 Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb.

16 Llawenhewch bob amser.

17 Gweddïwch yn ddi-baid.

18 Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.

19 Peidiwch â diffodd yr Ysbryd;

20 peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau.

21 Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda.

22 Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.

23 Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist!

24 Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.

25 Gyfeillion, gweddïwch drosom ninnau.

26 Cyfarchwch y cyfeillion i gyd â chusan sanctaidd.

27 Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.

28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!

Penodau

1 2 3 4 5