Colosiaid 1 BCN

Cyfarch

1 Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd,

2 at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad.

Paul yn Diolch i Dduw am Gristionogion Colosae

3 Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,

4 oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint,

5 deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl

6 sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd.

7 Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan,

8 ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd.

Person a Gwaith Crist

9 Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw,

10 er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw.

11 Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim,

12 gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.

13 Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,

14 yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.

15 Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;

16 oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.

17 Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

18 Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth.

19 Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,

20 a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.

21 Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd,

22 yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.

23 Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio â symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.

Gweinidogaeth Paul i'r Eglwys

24 Yr wyf yn awr yn llawen yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cwblhau yn fy nghnawd yr hyn sy'n ôl o gystuddiau Crist, er mwyn ei gorff, sef yr eglwys.

25 Fe ddeuthum i yn weinidog i'r eglwys yn ôl yr oruchwyliaeth a roddodd Duw i mi er eich mwyn chwi, i gyhoeddi gair Duw yn ei gyflawnder,

26 sef y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd ac ers cenedlaethau, ond sydd yn awr wedi ei amlygu i'w saint.

27 Ewyllysiodd Duw hysbysu iddynt hwy beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd. Dyma'r dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant.

28 Ei gyhoeddi ef yr ydym ni, gan rybuddio pawb, a dysgu pawb ym mhob doethineb, er mwyn cyflwyno pob un yn gyflawn yng Nghrist.

Penodau

1 2 3 4