1 Jwdas, gwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai sydd wedi eu galw, yn annwyl gan Dduw y Tad ac wedi eu cadw i Iesu Grist.
2 Trugaredd a thangnefedd a chariad a amlhaer i chwi!
3 Gyfeillion annwyl, yr oeddwn yn awyddus iawn i ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth sy'n eiddo i ni i gyd, ond daeth rheidrwydd arnaf i ysgrifennu atoch i'ch annog i ymuno yn y frwydr o blaid y ffydd a draddodwyd un waith am byth i'r saint.
4 Oherwydd y mae rhywrai wedi llithro'n llechwraidd i'ch plith, rhai y mae'r farnedigaeth hon arnynt wedi ei chofnodi erstalwm, mai pobl annuwiol ydynt, yn troi gras ein Duw ni yn anlladrwydd, ac yn gwadu ein hunig Feistr ac Arglwydd, Iesu Grist.
5 Er eich bod chwi'n gwybod hyn oll, yr wyf am eich atgoffa fod yr Arglwydd, er iddo unwaith waredu'r bobl o dir yr Aifft, wedi dinistrio wedyn y rhai oedd heb gredu.
6 Cofiwch yr angylion hefyd, y rhai a wrthododd gadw o fewn terfynau eu llywodraeth ac a gefnodd ar eu trigfan eu hunain, iddo ef eu cadw hwy yn y tywyllwch mewn cadwynau tragwyddol, i aros barn y Dydd mawr.
7 A chofiwch Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u cwmpas; fel yr angylion, ymollwng a wnaethant hwythau i buteindra ac i borthi eu chwantau annaturiol. Wrth gael eu cosbi yn y tân tragwyddol, y maent yn esiampl amlwg i bawb.
8 Y mae'r un fath eto yn achos y rhai hyn. Y mae eu breuddwydio yn peri iddynt halogi'r cnawd, a diystyru awdurdod, a sarhau'r bodau nefol.
9 Pan oedd Mihangel, yr archangel, mewn ymryson â'r diafol yn dadlau am gorff Moses, ni feiddiodd gyhoeddi barn a fyddai'n sarhau'r diafol; yn hytrach dywedodd, “Cerydded yr Arglwydd di.”
10 Ond y mae'r bobl hyn yn sarhau'r pethau nad ydynt yn eu deall, a'r pethau y maent yn eu deall wrth reddf fel anifeiliaid direswm yw'r pethau sydd yn eu dinistrio.
11 Gwae hwy! Y maent wedi dilyn llwybr Cain; y maent wedi ymollwng, er mwyn elw, i gyfeiliornad Balaam; y maent wedi gwrthryfela fel Core, a darfod amdanynt.
12 Dyma'r rhai sydd yn feflau yn eich cariad-wleddoedd, yn cydeistedd â chwi yn ddigywilydd, bugeiliaid sy'n eu pesgi eu hunain. Cymylau heb ddŵr ydynt, yn cael eu chwythu ymaith gan wyntoedd; coed yr hydref, yn ddiffrwyth ac wedi eu diwreiddio, ddwywaith yn farw;
13 tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu llysnafedd eu gweithredoedd; sêr wedi crwydro o'u llwybrau, a'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt am byth.
14 Am y rhain y mae Enoch hefyd, y seithfed yn llinach Adda, wedi proffwydo wrth ddweud, “Wele, y mae'r Arglwydd yn dod gyda'i fyrddiynau sanctaidd
15 i weithredu barn ar bawb, i'w condemnio i gyd am annuwioldeb eu holl weithredoedd ysgeler, ac am atgasedd holl eiriau'r pechaduriaid annuwiol hynny yn ei erbyn.”
16 Pobl yn caru grwgnach a gweld bai yw'r rhain, yn byw yn ôl eu chwantau eu hunain, yn ymffrostgar eu siarad, yn gynffonwyr er mwyn ffafr.
17 Ond dylech chwi, gyfeillion annwyl, gofio'r pethau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist.
18 Dywedasant wrthych, “Yn yr amser diwethaf fe fydd gwatwarwyr, pobl a fydd yn byw yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.”
19 Dyma'r rhai fydd yn achosi rhaniadau, pobl fydol yn amddifad o'r Ysbryd.
20 Ond rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân;
21 cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol.
22 Y mae rhai y dylech dosturio wrthynt yn eu hamheuon, eraill y dylech eu hachub a'u cipio o'r tân,
23 ac y mae eraill y dylech dosturio wrthynt gydag ofn, gan gasáu hyd yn oed y dilledyn sydd â llygredd y cnawd arno.
24 Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,
25 iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.