3 Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch,
4 a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd.
5 Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr;
6 ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
7 Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal â phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau.
8 Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.
9 Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth,