6 ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
7 Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal â phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau.
8 Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.
9 Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth,
10 er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist,
11 yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw.
12 Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl,