3 Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win;
4 dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant,
5 i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chaiff gair Duw enw drwg.
6 Yn yr un modd, cymell y dynion ifainc i arfer hunanddisgyblaeth.
7 Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster
8 a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom.
9 Cymell y caethweision i fod yn ddarostyngedig i'w meistri ym mhob peth, i wneud eu dymuniad, i beidio â'u hateb yn ôl