Titus 3 BCN

Dal at Weithredoedd Da

1 Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda;

2 i beidio â bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.

3 Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd.

4 Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl,

5 fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân,

6 a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr.

7 Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.

8 Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.

9 Ond gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.

10 Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar ôl iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid â gwneud dim mwy ag ef;

11 fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.

Cyfarwyddiadau Personol a Chyfarchion

12 Pan anfonaf Artemas neu Tychicus atat, gwna dy orau i ddod ataf i Nicopolis, oherwydd yr wyf wedi penderfynu bwrw'r gaeaf yno.

13 Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim.

14 Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wnânt, byddant yn ddi-les.

15 Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!

Penodau

1 2 3