6 Dygodd byst Asera allan o dŷ'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin.
7 Bwriodd i lawr dai puteinwyr y cysegr oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, lle'r oedd gwragedd yn gweu gwisgoedd ar gyfer delw Asera.
8 Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas.
9 Eto ni ddôi offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.
10 Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch.
11 A gwnaeth i ffwrdd â'r meirch a gysegrodd brenhinoedd Jwda i'r haul ym mynedfa tŷ'r ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd yn y glwysty, a llosgodd gerbyd yr haul.
12 Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tŷ'r ARGLWYDD; ac ar ôl eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron.