1 Yn ei ddyddiau ef daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a bu Jehoiacim yn ddarostyngedig iddo am dair blynedd cyn gwrthryfela.
2 Anfonodd yr ARGLWYDD finteioedd o Galdeaid ac o Syriaid a Moabiaid ac Ammoniaid i ymosod ar Jwda a'i difa, yn ôl yr hyn yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy ei weision y proffwydi.
3 Yn sicr, trwy orchymyn yr ARGLWYDD y digwyddodd hyn i Jwda, i'w symud o'i olwg am yr holl bechodau a wnaeth Manasse,
4 a'r gwaed dieuog a dywalltodd; llanwodd Jerwsalem â gwaed dieuog, ac nid oedd yr ARGLWYDD yn fodlon maddau.
5 Am weddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
6 Bu farw Jehoiacim, a daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
7 Ni ddaeth brenin yr Aifft allan o'i wlad mwyach, oherwydd yr oedd brenin Babilon wedi cipio'r cwbl a fu'n eiddo brenin yr Aifft rhwng nant yr Aifft ac afon Ewffrates.
8 Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Nehusta merch Elnathan o Jerwsalem oedd enw ei fam.
9 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.
10 Yr adeg honno daeth gweision Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gosod gwarchae ar y ddinas.
11 Yna, tra oedd ei weision yn gwarchae arni, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y ddinas,
12 ac aeth Jehoiachin brenin Jwda allan gyda'i fam a'i weision a'i swyddogion a'i weinyddwyr at frenin Babilon. Cymerodd brenin Babilon ef yn garcharor yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad,
13 a chludodd holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin oddi yno, a dryllio'r holl gelfi aur a wnaeth Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y rhagddywedodd yr ARGLWYDD.
14 Caethgludodd ddeng mil o Jerwsalem, yr holl dywysogion a'r gwŷr cefnog, a phob crefftwr a gof hefyd, heb adael neb ond y tlotaf o bobl y wlad.
15 Aeth â Jehoiachin i Fabilon, a hefyd dwyn yn gaeth o Jerwsalem i Fabilon ei fam a'i wragedd a'i weinyddwyr a phendefigion y wlad.
16 Dygodd brenin Babilon yn gaeth i Fabilon saith mil o wŷr cefnog a mil o grefftwyr a gofaint, y cwbl yn wŷr glew yn medru rhyfela.
17 Gwnaeth brenin Babilon Mataneia ewythr Jehoiachin yn frenin yn ei le, a newid ei enw i Sedeceia.
18 Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.
19 A gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth Jehoiacim.
20 Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd.