10 Ac meddai brenin Israel, “Och bod yr ARGLWYDD wedi galw'r tri brenin hyn allan i'w rhoi yn llaw brenin Moab!”
11 Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.”
12 Dywedodd Jehosaffat, “Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef.” Ac aeth brenin Israel a Jehosaffat a brenin Edom draw ato.
13 Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Beth sydd a wnelom ni â'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam.” Dywedodd brenin Israel wrtho, “Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab.”
14 Atebodd Eliseus, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat.
15 Ond yn awr, dewch â thelynor ataf.”
16 Ac fel yr oedd y telynor yn canu, daeth llaw yr ARGLWYDD arno, a dywedodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwneir y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.