27 Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei ôl ac yn dweud, “Tarwch yntau hefyd.” A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.
28 Yna cludodd ei weision ef i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei feddrod gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.
29 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram fab Ahab y daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda.
30 Daeth Jehu i Jesreel. Pan glywodd Jesebel, colurodd ei hwyneb ac addurno ei phen, ac edrychodd allan trwy'r ffenestr.
31 Fel yr oedd Jehu yn cyrraedd y porth, dywedodd wrtho, “A fydd heddwch, Simri, llofrudd ei feistr?”
32 Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, “Pwy sydd o'm plaid? Pwy?” Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, “Taflwch hi i lawr.”
33 Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.