1 Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad, breuddwydiodd Nebuchadnesar; yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus ac ni allai gysgu,
2 a pharodd y brenin iddynt alw'r dewiniaid a'r swynwyr a'r hudolwyr a'r Caldeaid i esbonio'r hyn yr oedd wedi ei freuddwydio. Pan ddaethant o flaen y brenin,
3 dywedodd wrthynt, “Cefais freuddwyd, ac yr wyf yn poeni ynghylch ei hystyr.”
4 Atebodd y Caldeaid mewn Aramaeg, “O frenin, bydd fyw byth! Adrodd dy freuddwyd wrth dy weision, a rhown iti'r dehongliad.”
5 Atebodd y brenin, “Dyma fy mhenderfyniad: os na fynegwch i mi'r freuddwyd a'i dehongliad, cewch eich rhwygo'n ddarnau, a chwelir eich tai.
6 Ond os mynegwch y freuddwyd a'i dehongliad, cewch anrhegion a chyfoeth ac anrhydedd mawr gennyf fi. Felly mynegwch imi'r freuddwyd a'i dehongliad.”
7 Dywedasant yr ail waith, “Adrodded y brenin y freuddwyd wrth ei weision; yna rhoddwn ninnau ei dehongliad.”
8 Atebodd y brenin, “Y mae'n amlwg eich bod yn oedi'n fwriadol, am ichwi sylweddoli fy mhenderfyniad;
9 un ddedfryd yn unig sy'n eich aros os na fynegwch y freuddwyd imi. Yr ydych wedi cytuno â'ch gilydd i ddweud celwydd i'm camarwain hyd nes y daw tro ar fyd. Dywedwch wrthyf beth oedd y freuddwyd, a chaf wybod y medrwch ei dehongli.”
10 Atebodd y Caldeaid, “Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead.
11 Y mae'r brenin wedi gofyn cwestiwn dyrys na all neb ei ateb ond y duwiau, nad ydynt yn byw ym myd y cnawd.”
12 Yna llidiodd y brenin a chynddeiriogi, a gorchymyn difa holl ddoethion Babilon.
13 Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau.
14 Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion.
15 Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?”
16 Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo.
17 Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia,
18 a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon.
19 Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:
20 “Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd;eiddo ef yw doethineb a nerth.
21 Ef sy'n newid amserau a thymhorau,yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer,yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.
22 Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig,yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll;gydag ef y trig goleuni.
23 Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid,am i ti roi doethineb a nerth i mi.Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym,a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.”
24 Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, “Paid â difa doethion Babilon. Dos â fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo.”
25 Brysiodd Arioch i fynd â Daniel at y brenin, a dweud wrtho, “Cefais ddyn ymhlith alltudion Jwda a all roi'r dehongliad i'r brenin.”
26 Meddai'r brenin wrth Daniel, a alwyd yn Beltesassar, “A fedri di ddweud wrthyf beth oedd y freuddwyd a welais, a'i dehongli?”
27 Atebodd Daniel, “Nid oes doethion na swynwyr na dewiniaid na brudwyr a fedr ddehongli i'r brenin y dirgelwch y mae'n holi yn ei gylch;
28 ond y mae Duw yn y nefoedd sy'n datguddio dirgelion, ac ef sy'n dangos i'r Brenin Nebuchadnesar beth a ddigwydd yn y dyfodol. Dyma'r freuddwyd a'r gweledigaethau a gefaist yn dy wely:
29 Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod.
30 Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau.
31 O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd.
32 Yr oedd pen y ddelw yn aur coeth, ei bron a'i breichiau'n arian, ei bol a'i chluniau'n bres,
33 ei choesau'n haearn, a'i thraed yn gymysgedd o haearn a chlai.
34 Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio.
35 Yna drylliwyd yr haearn, y clai, y pres, yr arian a'r aur gyda'i gilydd, nes eu bod fel us llawr dyrnu yn yr haf. Chwythodd y gwynt hwy i ffwrdd, ac nid oedd golwg ohonynt. Ond tyfodd y garreg a faluriodd y ddelw yn fynydd mawr, a llenwi'r holl ddaear.
36 “Dyna'r freuddwyd, ac yn awr fe rown y dehongliad i'r brenin.
37 Yr wyt ti, O frenin, yn frenin y brenhinoedd; rhoddodd Duw'r nefoedd i ti frenhiniaeth, awdurdod, nerth a gogoniant,
38 a'th ethol i lywodraethu ar bobl ac anifeiliaid y maes ac adar yr awyr ple bynnag y bônt. Ti yw'r pen aur.
39 Ar dy ôl daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
40 Wedyn pedwaredd frenhiniaeth, a fydd cyn gryfed â haearn. Ac fel y mae haearn yn malurio ac yn dryllio popeth, bydd hithau'n malurio ac yn dryllio'r rhain i gyd.
41 Fel y gwelaist y traed a'r bysedd yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, felly bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni'n gryf fel haearn, yn union fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog.
42 Ac fel yr oedd bysedd y traed yn gymysg o haearn ac o glai, felly y bydd rhan o'r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan.
43 Fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog, felly y byddant hwy'n priodi trwy'i gilydd; ond ni lŷn y naill wrth y llall, fel nad yw haearn a phridd yn glynu.
44 Yn nyddiau'r brenhinoedd hynny bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth,
45 fel y garreg a welaist yn cael ei naddu o'r mynydd heb gymorth llaw ac yn malurio'r haearn, y pres, y clai, yr arian, a'r aur. Dangosodd y Duw mawr i'r brenin beth sydd i ddigwydd ar ôl hyn. Y mae'r freuddwyd yn ddilys, a'i dehongliad yn sicr.”
46 Yna plygodd y Brenin Nebuchadnesar i lawr ac ymgrymu i Daniel, a gorchymyn offrymu iddo aberth ac arogldarth.
47 Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Yn wir, Duw y duwiau ac Arglwydd y brenhinoedd yw eich Duw chwi, a datguddiwr dirgelion; oherwydd medraist ddatrys y dirgelwch hwn.”
48 Yna dyrchafodd y brenin Daniel a rhoi llawer iawn o anrhegion iddo, a'i wneud yn ben ar holl dalaith Babilon ac yn bennaeth doethion Babilon.
49 Ar gais Daniel penododd y brenin Sadrach, Mesach ac Abednego yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon, ond arhosodd Daniel ei hun yn llys y brenin.