10 Unwaith y byddwch dros yr Iorddonen ac yn byw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth ichwi, cewch lonydd oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, a byddwch yn byw mewn diogelwch.
11 Yna fe ddygwch i'r man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, a'ch rhoddion dethol, y rhai yr ydych wedi eu haddunedu i'r ARGLWYDD.
12 A byddwch yn llawenhau gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, chwi a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion hefyd, a'r Lefiaid yn eich trefi, am nad oes ganddynt gyfran nac etifeddiaeth gyda chwi.
13 Gwylia rhag aberthu dy boethoffrymau ym mhobman a weli,
14 ond abertha hwy yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis o fewn un o'th lwythau; yno y gwnei bopeth yr wyf yn ei orchymyn iti.
15 Er hynny, cei ladd a bwyta faint a fynni o gig yn dy drefi, yn ôl yr hyn a gei drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân ei fwyta.
16 Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel dŵr ar y ddaear.