Deuteronomium 22 BCND

1 Os gweli ych neu ddafad sy'n eiddo i un o'th gymrodyr yn crwydro, paid â'i hanwybyddu, ond gofala ei dychwelyd iddo.

2 Os nad yw'r perchennog yn byw yn d'ymyl, na thithau'n gwybod pwy yw, dos â'r anifail adref a chadw ef nes y daw ei berchennog i chwilio amdano; yna rho ef yn ei ôl.

3 Gwna'r un modd os doi o hyd i'w asyn, neu ei glogyn neu unrhyw beth arall a gollir gan un o'th gymrodyr; ni elli ei anwybyddu.

4 Os gweli asyn neu ych un o'th gymrodyr wedi cwympo ar y ffordd, nid wyt i'w anwybyddu; gofala roi help iddo i'w godi.

5 Nid yw gwraig i wisgo dillad dyn, na dyn i wisgo dillad gwraig; oherwydd y mae pob un sy'n gwneud hyn yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.

6 Os digwydd iti ar dy ffordd daro ar nyth aderyn a chywion neu wyau ynddi, p'run ai mewn llwyn neu ar y llawr, a'r iâr yn gori ar y cywion neu'r wyau, nid wyt i gymryd yr iâr a'r rhai bach.

7 Gad i'r iâr fynd, a chymer y rhai bach i ti dy hun, er mwyn iddi fod yn dda iti, ac iti estyn dy ddyddiau.

8 Pan fyddi'n adeiladu tŷ newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i'th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rhywun yn syrthio oddi arno.

9 Nid wyt i hau hadau gwahanol yn dy winllan, rhag i'r cwbl gael ei fforffedu i'r cysegr, sef yr had a heuaist a chynnyrch y winllan hefyd.

10 Nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd.

11 Nid wyt i wisgo dilledyn o frethyn cymysg o wlân a llin.

12 Gwna iti blethau ar bedair congl y clogyn y byddi'n ei wisgo.

Deddfau ynglŷn â Phurdeb Rhywiol

13 Bwriwch fod dyn yn cymryd gwraig, ac yna wedi iddo gael cyfathrach â hi, yn ei chasáu,

14 yn rhoi gair drwg iddi, ac yn pardduo'i chymeriad a dweud, “Priodais y ddynes hon, ond pan euthum ati ni chefais brawf o'i gwyryfdod.”

15 Os felly, fe gymer tad a mam yr eneth brawf gwyryfdod yr eneth a'i ddangos i'r henuriaid ym mhorth y dref;

16 ac fe ddywed tad yr eneth wrth yr henuriaid, “Rhoddais fy merch i'r dyn hwn yn wraig, ond y mae'n ei chasáu,

17 a dyma ef yn rhoi gair drwg iddi ac yn dweud na chafodd brawf o'i gwyryfdod. Dyma brawf o wyryfdod fy merch.” Yna lledant y dilledyn gerbron henuriaid y dref,

18 a byddant hwythau yn cymryd y dyn ac yn ei gosbi.

19 Rhoddant arno ddirwy o gan sicl arian, i'w rhoi i dad yr eneth, am iddo bardduo cymeriad gwyryf o Israel; a bydd hi'n wraig iddo, ac ni all ei hysgaru tra bydd byw.

20 Ond os yw'r cyhuddiad yn wir, ac os na chafwyd prawf o wyryfdod yr eneth,

21 yna dônt â hi i ddrws tŷ ei thad; ac y mae gwŷr ei thref i'w llabyddio'n gelain â cherrig, am iddi weithredu'n ysgeler yn Israel, trwy buteinio yn nhŷ ei thad. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

22 Os ceir dyn yn gorwedd gyda gwraig briod, y mae'r ddau i farw, sef y dyn oedd yn gorwedd gyda'r wraig yn ogystal â'r wraig. Felly y byddi'n dileu'r drwg allan o Israel.

23 Os bydd dyn yn taro ar eneth sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo i ŵr, ac yn gorwedd gyda hi o fewn y dref,

24 yna dewch â'r ddau allan at borth y dref a'u llabyddio'n gelain â cherrig—yr eneth am na waeddodd, a hithau yn y dref, a'r dyn am iddo dreisio gwraig ei gymydog. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.

25 Ond os bydd y dyn wedi taro ar yr eneth a ddyweddïwyd allan yn y wlad, a'i threchu a gorwedd gyda hi, yna y dyn a orweddodd gyda hi yn unig sydd i farw.

26 Nid wyt i wneud dim i'r eneth, oherwydd ni wnaeth hi ddim i haeddu marw; y mae'r achos yma yr un fath â rhywun yn codi yn erbyn un arall ac yn ei lofruddio.

27 Allan yn y wlad y trawodd y dyn arni, ac er i'r eneth a ddyweddïwyd weiddi, nid oedd neb i'w harbed.

28 Os bydd dyn yn taro ar wyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gafael ynddi a gorwedd gyda hi, a hwythau'n cael eu dal,

29 yna y mae'r dyn a orweddodd gyda hi i roi hanner can sicl o arian i dad yr eneth, a rhaid iddo'i phriodi am iddo ei threisio; ni all ei hysgaru tra bydd byw.

30 Nid yw dyn i briodi gwraig i'w dad, rhag iddo ddwyn gwarth ar ei dad.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34