21 Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.
22 Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta.
23 Ond gofalwch beidio â bwyta'r gwaed, oherwydd y gwaed yw'r bywyd, ac nid wyt i fwyta'r bywyd gyda'r cig.
24 Ni chei ei fwyta; yr wyt i'w dywallt fel dŵr ar y ddaear.
25 Paid â'i fwyta, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl, am iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
26 Ond am y pethau sydd gennyt i'w cysegru, a'th addunedau, cymer hwy a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,
27 ac abertha dy boethoffrymau, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw; y mae gwaed dy ebyrth i'w dywallt ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw, ond cei fwyta'r cig.