29 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn distrywio o'th flaen y cenhedloedd yr wyt yn mynd i'w disodli. Pan fyddant wedi eu disodli a'u difa o'th flaen, a thithau'n byw yn eu gwlad,
30 gwylia rhag iti gael dy rwydo i'w canlyn, a holi am eu duwiau: “Sut yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli eu duwiau, er mwyn i minnau wneud yr un fath?”
31 Nid yn ôl eu dull hwy y gwnei i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd yr oedd y cwbl a wnaent hwy i'w duwiau yn ffieidd-dra atgas gan yr ARGLWYDD; yr oeddent hyd yn oed yn llosgi eu meibion a'u merched yn y tân i'w duwiau.
32 Gofala wneud popeth yr wyf fi yn ei orchymyn iti, heb ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho.