16 Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud fel arall, ac yn gweithredu'n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.
17 Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft;
18 heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy ôl, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol.
19 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.