9 bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.”
10 A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.
11 Os bydd dau gymydog yn ymladd â'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gŵr rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,
12 torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.
13 Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.
14 Nid wyt i feddu yn dy dŷ fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach.
15 Y mae dy bwysau a'th fesurau i fod yn gyfain ac yn safonol, fel yr estynner dy ddyddiau yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.