14 Nid wyf wedi bwyta dim o'r peth cysegredig tra bûm yn galaru, na symud dim ohono tra oeddwn yn aflan, nac offrymu dim ohono i'r marw. Yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD fy Nuw, ac wedi gwneud yn union fel y gorchmynnaist imi.
15 Edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd yn y nef, a bendithia dy bobl Israel a'r tir a roddaist inni yn ôl d'addewid i'n hynafiaid, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.”
16 Y dydd hwn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn gorchymyn iti gadw'r rheolau a'r deddfau hyn, a gofalu eu cyflawni â'th holl galon ac â'th holl enaid.
17 Yr wyt yn cydnabod heddiw mai'r ARGLWYDD yw dy Dduw ac y byddi'n rhodio yn ei lwybrau ac yn cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ddeddfau, ac yn ufuddhau iddo.
18 Y mae'r ARGLWYDD yntau yn cydnabod wrthyt heddiw dy fod yn bobl arbennig iddo'i hun, fel yr addawodd wrthyt, ond iti gadw ei holl orchmynion.
19 Bydd yn dy osod yn uwch o ran clod, enw ac anrhydedd na'r holl genhedloedd a greodd, ac yn bobl gysegredig i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel y dywedodd.