12 Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?”
13 Nid rhywbeth y tu hwnt i'r môr yw ychwaith, iti ddweud, “Pwy a â dros y môr ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?”
14 Y mae'r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.
15 Edrych, yr wyf am roi'r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.
16 Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.
17 Ond os byddi'n troi i ffwrdd ac yn peidio â gwrando, ac yn cael dy ddenu i addoli a gwasanaethu duwiau estron,
18 yna, dyma fi'n dweud wrthyt heddiw, fe'th lwyr ddifodir di, ac nid estynnir dy ddyddiau yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.