6 Ai dyma eich tâl i'r ARGLWYDD,O bobl ynfyd ac angall?Onid ef yw dy dad, a'th luniodd,yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd?
7 Cofia'r dyddiau gynt,ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu;gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti;neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.
8 Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd,a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led,fe bennodd derfynau'r bobloeddyn ôl rhifedi plant Duw.
9 Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD,Jacob oedd ei etifeddiaeth ef.
10 Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial,mewn gwagle erchyll, diffaith;amgylchodd ef a'i feithrin,amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad.
11 Fel eryr yn cyffroi ei nythac yn hofran uwch ei gywion,lledai ei adenydd a'u cymryd ato,a'u cludo ar ei esgyll.
12 Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,heb un duw estron gydag ef.