1 Dyma ddiarhebion Solomon:Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen,ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
2 Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
3 Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
4 Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
5 Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
6 Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn,ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
7 Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith,ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
8 Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn,ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha.
9 Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel,ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
10 Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul,ond cerydd agored yn peri heddwch.
11 Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn,ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
12 Y mae casineb yn achosi cynnen,ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
13 Ar wefusau'r deallus ceir doethineb,ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
14 Y mae'r doeth yn trysori deall,ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl.
15 Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
16 Cyflog y cyfiawn yw bywyd,ond cynnyrch y drwg yw pechod.
17 Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
18 Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,a ffôl yw'r un sy'n enllibio.
19 Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
20 Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,ond diwerth yw calon yr un drwg.
21 Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
22 Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23 Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24 Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
25 Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus,ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
26 Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid,felly y mae'r diogyn i'w feistr.
27 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
28 Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,ond derfydd gobaith y drygionus.
29 Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
30 Ni symudir y cyfiawn byth,ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
31 Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
32 Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,ond twyllodrus yw genau'r drygionus.