13 Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,a'u golygon yn uchel.
14 Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,a'u genau fel cyllyll,yn difa'r tlawd o'r tir,a'r anghenus o blith pobl.
15 Y mae gan y gele ddwy ferchsy'n dweud, “Dyro, dyro.”Y mae tri pheth na ellir eu digoni,ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:
16 Sheol, a'r groth amhlantadwy,a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.
17 Y llygad sy'n gwatwar tad,ac yn dirmygu ufudd-dod i fam,fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn,ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18 Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi,pedwar na allaf eu deall:
19 ffordd yr eryr yn yr awyr,ffordd neidr ar graig,ffordd llong ar y cefnfor,a ffordd dyn gyda merch.