20 Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,
21 a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.
22 “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23 Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.
24 Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.
25 Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
26 cyn iddo greu tir a meysydd,ac o flaen pridd y ddaear.