6 “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd, y crochan y mae rhwd arno, rhwd nad â allan ohono! Gwagiwch ef bob yn ddarn, heb fwrw coelbren am yr un ohonynt.
7 Yr oedd y gwaed yng nghanol y ddinas wedi ei dywallt ar y graig noeth, ac nid ar y ddaear i'r llwch ei guddio.
8 Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.
9 “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll tân mawr.
10 Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r tân, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn.
11 Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd.
12 Yn ofer y blinais; nid â'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy dân.