Eseciel 40 BCND

Eseciel yn Jerwsalem

1 Ar ddechrau'r bumed flwyddyn ar hugain o'n caethglud, ar y degfed o'r mis yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi cwymp y ddinas, ar yr union ddiwrnod hwnnw, daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf a mynd â mi yno.

2 Mewn gweledigaethau Duw, aeth â mi i dir Israel a'm gosod ar fynydd uchel iawn gydag adeiladau tebyg i ddinas ar ei ochr ddeheuol.

3 Cymerodd fi yno, a gwelais ddyn a'i ymddangosiad yn debyg i bres; yr oedd yn sefyll wrth y porth, â llinyn o liain a ffon fesur yn ei law.

4 Dywedodd y dyn wrthyf, “Fab dyn, edrych â'th lygaid, gwrando â'th glustiau, a dal sylw ar bopeth a ddangosaf i ti, oherwydd dyna pam y daethpwyd â thi yma. Dywed wrth dŷ Israel am y cyfan a weli.”

Porth y Dwyrain

5 Gwelais fur yn amgylchu'n llwyr safle'r deml. Yr oedd y ffon fesur yn llaw'r dyn yn chwe chufydd hir, sef cufydd a dyrnfedd; a phan fesurodd y mur yr oedd ei drwch yn hyd y ffon, a'i uchder yn hyd y ffon.

6 Yna aeth at y porth oedd yn wynebu'r dwyrain, ac i fyny ei risiau, a phan fesurodd riniog y porth yr oedd yn hyd y ffon.

7 Yr oedd hyd yr ystafelloedd ochr yn un ffon, a'u lled yn un ffon, a'r mur rhwng yr ystafelloedd yn bum cufydd o led; yr oedd rhiniog y porth ger y cyntedd gyferbyn â'r deml yn hyd un ffon.

8 Yna mesurodd gyntedd y porth,

9 ac yr oedd yn wyth cufydd o ddyfnder, a'i bileri yn ddau gufydd o drwch. Yr oedd cyntedd y porth gyferbyn â'r deml.

10 Y tu mewn i borth y dwyrain yr oedd tair o ystafelloedd ochr o'r ddeutu; yr un oedd mesuriadau'r tair, ac yr oedd y pileri ar bob ochr o'r un mesuriadau.

11 Yna mesurodd led agoriad y porth; yr oedd yn ddeg cufydd, ac yr oedd ei hyd yn dri chufydd ar ddeg.

12 Yr oedd wal cufydd o uchder o flaen yr ystafelloedd, ac yr oedd yr ystafelloedd yn chwe chufydd sgwâr.

13 Yna mesurodd y porth o ben mur cefn un ystafell i ben mur cefn yr un gyferbyn; yr oedd yn bum cufydd ar hugain o'r naill agoriad i'r llall.

14 Mesurodd ar hyd y muriau o amgylch y porth o'r tu mewn, a'u cael yn drigain cufydd.

15 Yr oedd y pellter o agoriad y porth i ben draw'r cyntedd yn hanner can cufydd.

16 Yr oedd ffenestri bychain oddi amgylch yn yr ystafelloedd ac yn y muriau y tu mewn i'r porth, ac felly hefyd yn y cyntedd; yr oedd y ffenestri oddi amgylch yn wynebu i mewn, ac yr oedd y pileri wedi eu haddurno â phalmwydd.

Y Cyntedd Nesaf Allan

17 Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf allan, a gwelais yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneud o amgylch y cyntedd; yr oedd deg ar hugain o ystafelloedd yn wynebu'r palmant.

18 Yr oedd y palmant wrth ochr y pyrth, a'r un hyd â'r pyrth; hwn oedd y palmant isaf.

19 Yna mesurodd o'r tu mewn i'r porth isaf at y tu allan i'r cyntedd nesaf i mewn; yr oedd yn gan cufydd ar yr ochr ddwyreiniol ac ar yr ochr ogleddol.

Porth y Gogledd

20 Yna mesurodd hyd a lled y porth oedd yn wynebu'r gogledd yn y cyntedd nesaf allan.

21 Yr oedd ei ystafelloedd, tair o'r ddeutu, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â rhai'r porth cyntaf; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd ac yn bum cufydd ar hugain o led.

22 Yr oedd ei ffenestri, ei gyntedd a'i balmwydd yr un mesuriadau â rhai porth y dwyrain; arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn â hwy.

23 Yr oedd agoriad i'r cyntedd nesaf i mewn gyferbyn â phorth y gogledd, fel yr oedd ym mhorth y dwyrain. Mesurodd o'r naill borth i'r llall, ac yr oedd yn gan cufydd.

Porth y De

24 Yna arweiniodd fi at ochr y de, a gwelais borth yn wynebu'r de. Mesurodd ei bileri a'i gyntedd, a'r un oedd eu mesuriadau â'r lleill.

25 Yr oedd ffenestri o amgylch yn y porth ac yn ei gyntedd, fel ffenestri'r lleill. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

26 Arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn â hwy; yr oedd y pileri ar y naill ochr a'r llall wedi eu haddurno â phalmwydd.

27 Yn y cyntedd nesaf i mewn yr oedd porth yn wynebu'r de, a mesurodd o'r porth hwn at y porth nesaf allan ar ochr y de; yr oedd yn gan cufydd.

Cyntedd y De

28 Yna aeth â mi trwy borth y de i'r cyntedd nesaf i mewn, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill.

29 Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

30 Yr oedd cynteddoedd y pyrth o amgylch y cyntedd nesaf i mewn yn bum cufydd ar hugain o led, a phum cufydd o ddyfnder.

31 Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

Cyntedd y Dwyrain

32 Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf i mewn ar ochr y dwyrain, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill.

33 Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

34 Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

35 Yna aeth â mi at borth y gogledd, a'i fesur; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill;

36 felly hefyd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd, ac yr oedd ffenestri o'i amgylch. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

37 Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

Adeiladu'r Cyntedd Nesaf Allan

38 Yng nghyntedd y porth yr oedd ystafell ac iddi ddrws, ac yno y golchid y poethoffrwm.

39 Yng nghyntedd y porth yr oedd hefyd ddau fwrdd o boptu, ac arnynt y lleddid y poethoffrwm, yr offrwm dros bechod a'r offrwm dros gamwedd.

40 Yng nghyntedd nesaf allan y porth, wrth ymyl y grisiau oedd yn arwain i borth y gogledd, yr oedd dau fwrdd, a'r ochr arall i'r grisiau hefyd ddau fwrdd.

41 Yr oedd pedwar o fyrddau ar un ochr i'r porth, a phedwar ar yr ochr arall, wyth i gyd; ac arnynt y lleddid yr aberthau.

42 Yr oedd hefyd bedwar bwrdd o feini nadd ar gyfer y poethoffrwm, pob un yn gufydd a hanner o hyd, yn gufydd a hanner o led ac yn gufydd o uchder; arnynt hwy y rhoddid yr offer ar gyfer lladd y poethoffrwm a'r aberthau eraill.

43 Ar y muriau oddi amgylch yr oedd bachau dwbl, dyrnfedd o hyd; yr oedd y byrddau ar gyfer cig yr offrwm.

Ystafelloedd yr Offeiriaid

44 Y tu allan i'r porth nesaf i mewn, a'r tu mewn i'r cyntedd nesaf i mewn, yr oedd dwy ystafell, un ger porth y gogledd ac yn wynebu'r de, ac un ger porth y de ac yn wynebu'r gogledd.

45 Dywedodd wrthyf, “Y mae'r ystafell sy'n wynebu'r de ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml,

46 ac y mae'r un sy'n wynebu'r gogledd ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor, sef meibion Sadoc, yr unig rai o feibion Lefi sy'n cael dynesu at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu.”

47 Yna mesurodd y cyntedd, ac yr oedd yn sgwâr, yn gan cufydd o hyd ac yn gan cufydd o led; yr oedd yr allor o flaen y deml.

Y Deml

48 Aeth â mi at gyntedd y deml, a mesur pileri'r cyntedd; yr oedd eu trwch yn bum cufydd bob ochr. Yr oedd lled y porth yn bedwar cufydd ar ddeg, a'i furiau yn dri chufydd o led bob ochr.

49 Yr oedd y cyntedd yn ugain cufydd o led, ac yn ddeuddeg cufydd o'r blaen i'r cefn; arweiniai grisiau i fyny ato, ac yr oedd colofnau bob ochr i'r pileri.