8 Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.
9 “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll tân mawr.
10 Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r tân, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn.
11 Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd.
12 Yn ofer y blinais; nid â'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy dân.
13 Dy amhuredd di yw anlladrwydd; oherwydd imi geisio dy lanhau, ac na ddoit yn lân o'th amhuredd, ni fyddi'n lân eto nes i'm llid yn dy erbyn dawelu.
14 Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; daeth yn amser imi weithredu. Ni fyddaf yn ymatal, nac yn tosturio nac yn trugarhau. Fe'th fernir yn ôl dy ffyrdd a'th weithredoedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”