10 Ni fyddant yn casglu cynnud o'r meysydd nac yn torri coed yn y coedwigoedd, gan y byddant yn gwneud tân o'r arfau. Byddant yn ysbeilio'u hysbeilwyr ac yn anrheithio'u hanrheithwyr, medd yr Arglwydd DDUW.
11 “ ‘Y diwrnod hwnnw fe roddaf i Gog feddrod yn Israel, yn nyffryn y rhai sy'n croesi i'r dwyrain at y môr; bydd yn rhwystr i'r rhai sy'n croesi drosodd, oherwydd bydd Gog a'i holl luoedd wedi eu claddu yno, ac fe'i gelwir yn Ddyffryn Hamon Gog.
12 Bydd tŷ Israel yn eu claddu am saith mis, er mwyn glanhau'r wlad.
13 Bydd holl bobl y wlad yn eu claddu, a bydd yn glod iddynt ar y diwrnod y gogoneddir fi, medd yr Arglwydd DDUW.
14 Neilltuir dynion i fynd trwy'r wlad yn gyson i gladdu'r rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, er mwyn ei glanhau; ar derfyn y saith mis byddant yn dechrau chwilio.
15 Wrth iddynt fynd trwy'r wlad, ac i un ohonynt weld asgwrn dynol, bydd hwnnw'n codi arwydd yn ei ymyl nes i'r claddwyr ei gladdu yn Nyffryn Hamon Gog.
16 Bydd yno hefyd dref o'r enw Hamona. Felly y glanheir y wlad.’