1 Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
2 Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,a thithau heb wrando,ac y llefaf arnat, “Trais!”a thithau heb waredu?
3 Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,a gwneud imi weld trallod?Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,cynnen a therfysg yn codi.
4 Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
5 “Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaithna choeliech, pe dywedid wrthych.
6 Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,y genedl greulon a gwyllt,sy'n ymdaith ledled y ddaeari feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
7 Arswydus ac ofnadwy ydynt,yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
8 Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard,yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr,ac yn ysu am fynd.Daw ei farchogion o bell,yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
9 Dônt i gyd i dreisio,a bydd dychryn o'u blaen;casglant gaethion rif y tywod;
10 gwawdiant frenhinoedda dirmygant arweinwyr;dirmygant bob amddiffynfa,a gosod gwarchae i'w meddiannu.
11 Yna rhuthrant heibio fel gwynt—dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”
12 Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
13 Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,ac na elli oddef camwri,pam y goddefi bobl dwyllodrus,a bod yn ddistaw pan fydd y drygionusyn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
14 Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
15 Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt,a'u dal mewn rhwydau,a'u casglu â llusgrwydau;yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
16 yn cyflwyno aberth i'w rhwydauac yn arogldarthu i'r llusgrwydau,am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n frasa bwyta'n foethus.
17 A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd,a lladd cenhedloedd yn ddidostur?