6 Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”
7 Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
8 Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tira'r ddinas a'i holl drigolion.
9 Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,er mwyn gosod ei nyth yn uchel,a'i waredu ei hun o afael blinder.
10 Cynlluniaist warth i'th dŷ dy huntrwy dorri ymaith bobloedd lawer,a pheryglaist dy einioes dy hun.
11 Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,ac etyb trawst o'r gwaith coed.
12 Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.