1 O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbïwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i ysbïo'r wlad, yn arbennig Jericho.” Aethant hwythau, a chyrraedd tŷ rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho,
2 “Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad.”
3 Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, “Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th dŷ, oherwydd wedi dod i ysbïo'r holl wlad y maent.”
4 Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent;
5 a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.”
6 Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno.
7 Aeth y dynion a oedd yn eu hymlid ar eu hôl hyd at rydau'r Iorddonen; a chaewyd y porth, wedi i'r ymlidwyr fynd allan.
8 Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to,
9 a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid.
10 Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Môr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen.
11 Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod.
12 Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd â chwi, y gwnewch chwithau'r un modd â'm teulu i; rhowch imi sicrwydd
13 y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau.”
14 Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio â datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch â thi.”
15 Yna gollyngodd Rahab hwy i lawr drwy'r ffenestr ar raff, oherwydd yr oedd ei thŷ ar fur y ddinas, a hithau'n byw ar y mur.
16 Dywedodd wrthynt, “Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun.”
17 Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu,
18 pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tŷ dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd.
19 Pwy bynnag a â allan trwy ddrws dy dŷ, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tŷ, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn.
20 Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti.”
21 Atebodd hithau, “Rwy'n cytuno”; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr.
22 Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd.
23 Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hôl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt,
24 a dweud, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r holl wlad yn ein dwylo, ac y mae'r trigolion i gyd mewn gwewyr o'n plegid.”