19 Ond dywedodd Josua wrth y bobl, “Ni fedrwch wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd y mae'n Dduw sanctaidd, ac yn Dduw eiddigus, ac ni fydd yn maddau eich troseddau a'ch pechodau.
20 Os gadewch yr ARGLWYDD a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi ac yn gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chwi.”
21 Dywedodd y bobl wrth Josua, “Na, yr ydym am wasanaethu'r ARGLWYDD.”
22 Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebasant hwythau, “Tystion ydym.”
23 “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.”
24 Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.”
25 Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer.