Hebreaid 6 BCND

1 Am hynny, gadewch inni ymadael â'r athrawiaeth elfennol am Grist, a mynd ymlaen at y tyfiant llawn. Ni ddylem eilwaith osod y sylfaen, sef edifeirwch am weithredoedd meirwon, a ffydd yn Nuw,

2 dysgeidiaeth am olchiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a'r Farn dragwyddol.

3 A mynd ymlaen a wnawn, os caniatâ Duw.

4 Oherwydd y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd o'r rhodd nefol, ac a fu'n gyfrannog o'r Ysbryd Glân,

5 ac a brofodd ddaioni gair Duw a nerthoedd yr oes i ddod—

6 os yw'r rhain wedyn wedi syrthio ymaith, y mae'n amhosibl eu hadfer i edifeirwch, gan eu bod i'w niwed eu hunain yn croeshoelio Mab Duw, ac yn ei wneud yn waradwydd.

7 Oherwydd y mae'r ddaear, sy'n llyncu'r glaw sy'n disgyn arni'n fynych, ac sy'n dwyn cnydau addas i'r rhai y mae'n cael ei thrin er eu mwyn, yn derbyn ei chyfran o fendith Duw.

8 Ond os yw'n dwyn drain ac ysgall, y mae'n ddiwerth ac yn agos i felltith, a'i diwedd fydd ei llosgi.

9 Er ein bod yn siarad fel hyn, yr ydym yn argyhoeddedig, gyfeillion annwyl, fod pethau gwell yn eich aros chwi, pethau sy'n perthyn i iachawdwriaeth.

10 Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.

11 Ond ein dyhead yw i bob un ohonoch ddangos yr un eiddgarwch ynglŷn â sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd.

12 Yr ydym am ichwi beidio â bod yn ddiog, ond yn efelychwyr y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu'r addewidion.

Addewid Sicr Duw

13 Pan roddodd Duw, felly, addewid i Abraham, gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho, fe dyngodd wrtho'i hun

14 gan ddweud: “Yn wir, bendithiaf di, ac yn ddiau, amlhaf di.”

15 Ac felly, wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd.

16 Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt.

17 Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw,

18 er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen.

19 Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen,

20 lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn ôl urdd Melchisedec.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13