7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i'ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?
8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.
9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a'i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.
10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.
11 A'r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd.
12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.
13 A'r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: a'r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.