2 Brenhinoedd 21 BWM

1 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.

4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.

5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu'r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd.

6 Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.

7 Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd:

8 Ac ni symudaf mwyach droed Israel o'r wlad a roddais i'w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

9 Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a'u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10 A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd,

11 Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na'r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o'i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a'i clywant.

13 A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a'i try ar ei wyneb.

14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i'w holl elynion:

15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a'u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o'r Aifft, hyd y dydd hwn.

16 Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

17 A'r rhan arall o hanes Manasse, a'r hyn a wnaeth efe, a'i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

18 A Manasse a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba.

20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac a ymgrymodd iddynt:

22 Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.

23 A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.

24 A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

25 A'r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25