2 Brenhinoedd 1:9-15 BWM

9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a'i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.

10 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.

11 A'r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd.

12 Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.

13 A'r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: a'r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

14 Wele, disgynnodd tân o'r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a'u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

15 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.