10 A'r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd.
11 A'r swyddogion a safasant bob un â'i arfau yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ, hyd y tu aswy i'r tŷ, wrth yr allor a'r tŷ, amgylch ogylch y brenin.
12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a'r dystiolaeth: a hwy a'i hurddasant ef yn frenin, ac a'i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo'r brenin.
13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd.
14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
15 A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o'r tu allan i'r rhesau; a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd.
16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.