13 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr Arglwydd.
14 A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
15 A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o'r tu allan i'r rhesau; a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd.
16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.
17 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr Arglwydd a'r brenin a'r bobl, i fod ohonynt yn bobl i'r Arglwydd; a rhwng y brenin a'r bobl.
18 A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a'i dinistriasant ef a'i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau. A'r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd.
19 Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a'r capteiniaid, a'r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr Arglwydd, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.