21 A'r rhan arall o hanes Menahem, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
22 A Menahem a hunodd gyda'i dadau; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
23 Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe.
24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
25 A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
26 A'r rhan arall o hanes Pecaheia, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe.