7 Ac Asareia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef gyda'i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
8 Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis.
9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef gerbron y bobl, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11 A'r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
12 Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.
13 Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.