9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef gerbron y bobl, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11 A'r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
12 Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.
13 Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.
14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
15 A'r rhan arall o hanes Salum, a'i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.