16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.
17 A hwy a dynasant eu meibion a'u merched trwy'r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.
18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a'u bwriodd hwynt allan o'i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.
19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy.
20 A'r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel, ac a'u cystuddiodd hwynt, ac a'u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o'i olwg.
21 Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.
22 Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt: