18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a'u bwriodd hwynt allan o'i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.
19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy.
20 A'r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel, ac a'u cystuddiodd hwynt, ac a'u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o'i olwg.
21 Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.
22 Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt:
23 Nes i'r Arglwydd fwrw Israel allan o'i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o'i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn.
24 A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a'u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.